Diane McCrea

Cadeirydd

Cyfoeth Naturiol Cymru

 

 

 

 

 

13 Tachwedd 2017

 

Annwyl Diane,

 

Gwaredu gwaddod wedi'i garthu yn y môr o dan drwydded forol 12/45/ML.

 

Fe wyddoch am ddiddordeb diweddar gan y cyhoedd yn y drwydded forol y gwnaethoch ei rhoi (11 Gorffennaf 2014) i NNB Genco ar gyfer gwaredu gwaddod wedi'i garthu ar safle gwaredu Cardiff Grounds, mewn perthynas â gwaith EDF Energy i adeiladu system oeri dŵr ar gyfer Hinkley Point C.

 

Mae Aelodau'r Cynulliad wedi mynegi pryderon ynghylch y mater hwn sawl gwaith yn y Cyfarfod Llawn, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi gwneud datganiadau perthnasol. Mae'r mater hwn hefyd yn destun deiseb i'r Cynulliad, "Atal Trwydded Forol 12/45/ML i waredu gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd", a gefnogwyd gan 7,171 o aelodau o'r cyhoedd.

 

O gofio lefel diddordeb y cyhoedd, cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i glywed cyflwyniad gan EDF Energy ar y mater hwn ar 26 Hydref. Codwyd nifer o faterion yn ystod y cyflwyniad hwnnw yr hoffai'r Pwyllgor gael eglurhad pellach yn eu cylch.

 

1. Cydymffurfio â thrwydded forol 12/45/ML

 

Mae adran 9.5 y drwydded yn gofyn bod yn rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau nad oes unrhyw ddeunydd yn cael ei waredu ar ôl 4 Mawrth 2016 oni cheir cadarnhad ysgrifenedig gan CNC, yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu, ei fod yn fodlon bod y deunydd yn addas i'w waredu ar safle LU110.

 

Cwestiwn 1: A allwch egluro'r broses y bydd CNC yn ei dilyn i sicrhau bod y gwaddod sydd wedi'i garthu yn "addas" i'w waredu ar safle Cardiff Grounds?

 

Mae adran 72 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Deddf y Môr o hyn ymlaen) yn darparu gweithdrefn ar gyfer amrywio, atal neu ddirymu trwydded.


Mae'r rhesymau dros atal trwydded yn cynnwys achosion lle bu newid mewn amgylchiadau sy'n ymwneud â'r amgylchedd neu iechyd pobl, neu yn sgil gwybodaeth wyddonol bellach sy'n ymwneud â'r naill neu'r llall o'r ddau fater hynny.

 

Cwestiwn 2: A allwch chi egluro sut y byddwch yn asesu a yw'r rhesymau dros atal a amlinellir yn adran 72 wedi'u diwallu mewn perthynas â chanlyniadau'r samplau newydd a ddaeth i law ym mis Mai, ac a roddwyd i CNC ym mis Medi 2017? Ar sail pa feini prawf y byddai'r rhesymau hynny'n cael eu hasesu?

 

2. Pryderon ynghylch iechyd y cyhoedd

 

Mae adran 69 o Ddeddf y Môr yn gofyn bod yr awdurdod trwyddedu'n ystyried yr angen i amddiffyn iechyd pobl wrth benderfynu ar gais. Fe fyddwch yn ymwybodol y bu cryn bryder ymhlith y cyhoedd a chryn sylw yn y cyfryngau ynghylch effaith bosibl gwaredu gwaddod yn safle Cardiff Grounds ar iechyd pobl, yn benodol mewn perthynas ag ymbelydredd y gwaddod. Mae'r ddeiseb i'r Cynulliad ynghylch trwydded forol 12/45/ML yn nodi "mae gollyngiadau ymbelydrol Hinkley i'r môr yn cynnwys dros 50 o radioniwclidau, ond dim ond tri ohonynt yr ymchwiliwyd iddynt drwy'r dadansoddiad. Felly, bydd cynnwys ymbelydredd gwirioneddol y gwaddodion yn llawer uwch na'r hyn a ddangosir drwy'r dadansoddiad sydd ar gael."

 

Cwestiwn 3: Dywedodd EDF Energy wrth y Pwyllgor yr ymchwiliodd ei brofion cychwynnol i fwy na 50 o radioniwclidau, ond mai dim ond tri radioniwclid a ganfuwyd. A allwch gadarnhau bod hyn yn wir?

 

Hefyd, dywedodd EDF Energy wrth y Pwyllgor fod Cefas wedi gwneud profion ymbelydredd diweddar ar samplau gwaddod o'r safle sydd i'w garthu. Nid yw'r Pwyllgor yn dymuno bwrw amheuaeth ar ddibynadwyedd gwaith Cefas, ond o ystyried pryderon y cyhoedd ynghylch y mater hwn, rydym yn credu y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i unrhyw gamau y gellir eu cymryd i roi sicrwydd i'r cyhoedd.

 

Cwestiwn 4: A fyddech chi'n barod i ystyried comisiynu trydydd parti i adolygu canfyddiadau'r profion hynny? Hyderaf y byddwch, ni waeth beth a fydd yn digwydd, yn rhannu hyn gyda'r Pwyllgor hwn ac yn cyhoeddi canfyddiadau'r profion diweddaraf a gynhaliwyd ym mis Mai 2017.

 

Mae deiseb y Cynulliad yn nodi pryderon mai dim ond samplau arwynebol o waddod sydd wedi'u dadansoddi ac, o ganlyniad, efallai na fydd y profion wedi canfod cynnwys ymbelydrol o dan yr wyneb. Rhoddodd EDF Energy sicrwydd i'r Pwyllgor fod gwaith cynharach Cefas wedi dadansoddi samplau o dan yr wyneb (hyd at 4.8m). Roeddent yn dweud nad oedd y dadansoddiad wedi canfod lefelau annormal o radioniwclidau.

 

Cwestiwn 5: Beth yw barn CNC ar y mater hwn? A yw CNC yn fodlon nad oes angen gwneud rhagor o waith dadansoddi ar samplau o dan yr wyneb?


3. Effaith amgylcheddol

 

Mae adran 69 o Ddeddf y Môr yn gofyn bod yr awdurdod trwyddedu'n ystyried yr angen i amddiffyn yr amgylchedd.

 

Mae deiseb y Cynulliad sy'n ymwneud â thrwydded forol 12/45/ML yn gofyn am atal y drwydded i sicrhau bod "asesiad llawn o'r effaith amgylcheddol, dadansoddiad radiolegol cyflawn a samplu craidd yn cael eu cynnal".

 

Cwestiwn 6: A oes asesiad wedi'i gynnal o'r effaith amgylcheddol mewn perthynas â'r drwydded benodol hon? Os nad oes, pam hynny? A yw CNC yn fodlon, wrth edrych ar y cais hwn am drwydded i waredu deunydd wedi'i garthu ar y môr, y dilynwyd proses drwyadl a roddodd ystyriaeth ddigonol i warchod yr amgylchedd morol a diogelu iechyd pobl?

 

Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol o bryderon ynghylch diffyg data dibynadwy i lywio unrhyw asesiad o effaith gwaredu gwaddodion ar safle Cardiff Grounds.

 

Cwestiwn 7: A yw CNC yn fodlon bod ganddo ddigon o ddata a gwybodaeth am y deunydd, fel samplau gwaddodion ar ddyfnder a phrofion ymbelydredd, er mwyn asesu'n ddibynadwy effaith gwaredu'r deunydd?

 

4.           Monitro

 

Mae adran 9.1 o drwydded forol 12/45/ML yn nodi bod yn rhaid i ddeiliad y drwydded gyflwyno cynnig ar gyfer rhaglen fonitro ar y safle gwaredu a'r ardal uniongyrchol i Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu er mwyn cael cymeradwyaeth ysgrifenedig o leiaf 12 wythnos cyn unrhyw waith gwaredu. Bydd y cynllun yn cynnwys manylion arolygon cyn gwaith, yn ystod gwaith ac ar ôl gwaith, ac unrhyw gamau i'w cymryd o ganlyniad i ganfyddiadau'r arolygon. Diben y cynllun fydd osgoi deunydd rhag cronni'n sylweddol ac atal y dŵr rhag mynd yn fas o ganlyniad.

 

Rydym yn cael ar ddeall gan EDF Energy y cafodd CNC y cynllun monitro ym mis Hydref 2016, gan ei gymeradwyo ym mis Tachwedd 2016. Hefyd, fe ddywedodd y daeth samplau newydd i law ym mis Mai 2017 ac y cafodd CNC y gwaith dadansoddi cysylltiedig ar gyfer y rhain ym mis Medi 2017.

 

Cwestiwn 8: A allwch egluro'r broses y mae CNC yn ei dilyn i graffu ar y gwaith dadansoddi diweddaraf, a thrwy wneud hynny, yn bodloni'i hun bod amodau'r drwydded yn cael eu diwallu o hyd?

 

5.           Canfyddiadau'r cyhoedd

 

Drwy gydol y llythyr hwn, rwyf wedi cyfeirio at bryderon a fynegwyd gan aelodau'r cyhoedd ynghylch yr effaith bosibl o waredu gwaddod yn safle Cardiff Grounds. Yn ystod ei gyflwyniad, ceisiodd EDF Energy roi sicrwydd i'r Pwyllgor fod pryder y cyhoedd yn ddi-sail.


Os yw hynny'n wir, mae'r Pwyllgor yn credu bod angen gwneud cryn dipyn o waith i gyfleu'r neges honno i'r cyhoedd, yn lleol ac yn ehangach. Ymddengys bod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu'r farn hon, gan ddweud wrth y Pwyllgor Deisebau y byddai hi'n gofyn i swyddogion ystyried gyda Cyfoeth Naturiol Cymru sut y gall rannu gwybodaeth am y drwydded hon cyn gliried ac agored â phosibl i geisio lleihau pryderon pobl.

 

Cwestiwn 9: A allwch roi gwybod i'r Pwyllgor am unrhyw gyngor y cafodd CNC gan Ysgrifennydd y Cabinet neu ei swyddogion ynghylch y mater hwn a'r camau rydych chi'n eu cymryd mewn ymateb?

 

Cwestiwn 10: A ydych yn fodlon yr ymgynghorwyd yn ddigonol â'r cyhoedd yn ystod y broses o dan adran 69 o Ddeddf y Môr?

 

6.           Y broses drwyddedu

 

Mae'r Pwyllgor yn ymwybodol bod trwyddedu morol yn swyddogaeth sydd wedi'i dirprwyo i CNC ar ran Gweinidogion Cymru drwy Orchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2013.

 

Cwestiwn 11: A allwch gadarnhau bod CNC yn fodlon bod y broses trwyddedu morol yn drwyadl ac yn addas i'r diben, a bod gan CNC ddigon o adnoddau i'w gweinyddu? A oes unrhyw agweddau ar y broses trwyddedu morol yr ydych yn credu y gellid eu gwella, neu a oes unrhyw faterion yr hoffech eu tynnu at sylw'r Pwyllgor hwn?

 

Bydd copïau o'r llythyr hwn yn cael eu hanfon at EDF Energy ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a fydd am ddymuno nodi ei gynnwys mewn perthynas â'r pryderon iechyd y cyhoedd a godwyd gydag Aelodau'r Cynulliad. Bydd copi hefyd yn cael ei roi i Gadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad.

 

Yn gywir,

 

 

 

 

 

 

 

 

Mike Hedges AC

 

Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

 

Copi: EDF Energy; Iechyd Cyhoeddus Cymru; Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad.